Trosglwyddo i Calon Cymru Fostering

Mae symud i Calon Cymru yn gyflym, yn hawdd, ac efallai mai dyma'r symudiad gorau y byddwch chi'n ei wneud.

Girl climbing in a tree
10

Trosglwyddo i ni

Fel gofalwr maeth sydd wedi'i gymeradwyo yn barod, gallwch drosglwyddo i ddarparwr gwasanaeth maethu arall os ydych yn anhapus â'r gwasanaeth neu'r gefnogaeth rydych chi'n ei dderbyn.

Ydych chi'n chwilio am newid yn eich trefniadau maethu presennol? Ystyriwch newid i Calon Cymru Fostering (a elwid gynt yn 'Pathway Care Fostering'), un o asiantaethau annibynnol blaenllaw De a Gorllewin Cymru.  

Rydyn ni’n gweithredu o ddwy swyddfa leol yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin ac mae gennym weithwyr cymdeithasol wedi'u lleoli ledled y rhanbarth, gan sicrhau mynediad hawdd i'n timau a hyfforddiant arbenigol lleol.

Manteision wrth drosglwyddo I Calon Cymru

Group 1828 1

Gweithiwr cymdeithasol ymroddedig a thîm o weithwyr cymorth yn cefnogi ac yn gweithio gyda chi

Group 1828

Mae ein tîm gwaith cymdeithasol ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn

Group 1833

'Bydi' gofalwr maeth - rhywun sydd eisoes wedi bod drwy'r broses yn barod ac yn maethu gyda ni hefyd

Group 1828

Hyfforddiant a chefnogaeth reolaidd i roi hwb i'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch hyder

Group 1828 1

Rydym yn cynnig lwfans cystadleuol a phecynnau buddion ar gyfer ein holl ofalwyr

Group 1833

Mae ein mentrau a arweinir gan ofalwyr yn cynnwys grwpiau cymorth a gweithgareddau rheolaidd i bawb

Trosglwyddo i Calon Cymru Fostering

Trosglwyddwch eich cymeradwyaeth i ni, a byddwn yn sicrhau trosglwyddiad llyfn, wedi'i reoli'n sensitif, er budd gorau'r plant yn eich gofal. Mae’r broses o drosglwyddo i Calon Cymru Fostering yn cael ei thrafod yn unigol ac yn cymryd, ar gyfartaledd, tua 3-4 mis. Mae'n rhaid i'ch asiantaeth faethu bresennol ddarparu ystod o wybodaeth fel rhan o'r trosglwyddiad, gan gynnwys mynediad i'ch ffeil bresennol. Mae hyn yn helpu i leihau'r amser cyn eich bod yn barod i gofrestru gyda ni.

Rydyn ni’n dilyn Protocol Trosglwyddo’r Rhwydwaith Maethu (2014, a ail-gyhoeddwyd yn 2015) sy’n datgan:

Mae’r protocol yn cydnabod egwyddorion deddfwriaeth gofal plant ac mae’n ceisio sicrhau bod diogelu llesiant plant wrth wraidd polisi ac ymarfer maethu. Mae’n cydnabod bod llesiant unrhyw blentyn sydd wedi’i leoli yn hollbwysig.

Cliciwch yma am gopi o Brotocol Trosglwyddo’r Rhwydwaith Maethu.

Sut mae'r broses drosglwyddo'n gweithio?

Mae’r broses yn syml iawn os ydych yn bwriadu trosglwyddo ac nad oes gennych blant wedi’u lleoli gyda chi. Fodd bynnag, os oes gennych blentyn wedi'i leoli gyda chi, caiff cyfarfod protocol ei drefnu yn gynnar yn y broses i drafod anghenion y rhai sydd dan eich gofal ac mae angen i'r gwasanaethau Calon Cymru Fostering barhau i’w darparu.  

Yn dilyn cyfarfod protocol, gellir dod i gytundeb i'r plant drosglwyddo gyda chi. Byddwn yn cynnal eich telerau lleoli presennol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn parhau i dderbyn yr un lefel o daliad, treuliau a gwasanaethau i gefnogi'r plentyn am gyfnod y lleoliad.

Welsh FAQ

Cwestiynau cyffredin

Yn hollol, eich dewis chi'n llwyr ydyw. Mae gennych yr hawl a'r gallu i drosglwyddo fel gofalwr maeth ar unrhyw adeg.

Os ydych ar hyn o bryd yn maethu ar ran Awdurdodau Lleol neu asiantaeth faethu annibynnol wahanol rydych chi bob amser yn gymwys i drosglwyddo i Calon Cymru.

Cysylltwch ag un o'n cynghorwyr maethu heddiw. Rhowch alwad i ni neu llenwch ffurflen gyswllt a chysylltu'n ôl.

Ydych chi'n meddwl y gallwch chi newid bywyd plentyn neu berson ifanc lleol sy'n fregus?

Cysylltwch heddiw am sgwrs anffurfiol, gyfeillgar gyda'n cynghorwyr maeth profiadol.

Cysylltu â ni